Skip to content
Glaoigh orainn/Call us: +353 (0) 1 478 3814
star Shopping Cart 0
Sale!

Yr Ynys Ddu (An tOileán Dubh) (Welsh version)

0.3 KGs:

Only

8.00

Out of stock

SKU: 210402YYD Category:

Description

Mae Tintin a Milyn yn cerdded yn yr awyr iach pan ddont ar draws dau awyrenwr mewn trafferth… a dyna ble mae trafferthion ein harwyr yn dechrau. Tra bod y ddau dditectif Parry-Williams a Williams-Parry yn dilyn eu trwynau eu hunain, mae Tintin yn dilyn trwyn mwy dibynadwy Milyn ac yn mynd ar drywydd criw o ffugwyr arian rhyngwladol – yn eu plith, gŵr a ddaw’n un o’i elynion pennaf, sef y meddyg Müller. Trwy ddianc â’i fywyd wedi iddo gael ei saethu ar gychwyn yr antur, daw sawl dihangfa i ran Tintin wrth iddo ddilyn y cliwiau a chael ei hun yn y pen draw ym mhellafoedd gogleddol a niwlog yr Alban, yng nghanol hen hanesion tywyll am y bwystfil mawr, a’ Bhèist Mhòr, sy’n trigo yn adfeilion castell a’ Chreag Dubh ar yr Ynys Ddu. A thua’r ynys y mae Tintin a Milyn yn morio mewn cwch bach bregus i herio chwedl y bwystfil…

Additional information

Weight 0.3 kg